Lleoliad:
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 28 Mawrth 2017
Amser:
08.30 - 08.57
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AC (Cadeirydd) Rhun ap Iorwerth AC Paul Davies AC Jane Hutt AC David J Rowlands AC |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Ann Jones AC, Y Dirprwy Lywydd Christopher Warner, Pennaeth Gwasanaeth y Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
Cytunodd y Pwyllgor ar y cofnodion ar gyfer eu cyhoeddi.
Dydd Mawrth
Bydd Mark Reckless yn holi'r Prif Weinidog yn ystod Cwestiynau'r Arweinwyr yn absenoldeb Neil Hamilton.
Bydd cynnig i atal y Rheolau Sefydlog i roi amser i'r ddadl ar adroddiad Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar oblygiadau gadael yr Undeb Ewropeaidd i Gymru, a gafodd ei aildrefnu o'r wythnos ddiwethaf, i'w gynnal ddydd Mawrth, gan roi amser i gynnal Dadl Fer Dawn Bowden ddydd Mercher.
Cwtogodd y Llywodraeth yr amser a neilltuwyd ar gyfer trafodion Cyfnod 3 o dair awr i ddwy awr.
Nododd y Rheolwyr Busnes y bydd pob pleidlais mewn perthynas â'r Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) yn digwydd yn ystod trafodion Cyfnod 3.
Cwestiynodd y Rheolwyr Busnes amseriad y ddadl ar Barciau Cenedlaethol o ystyried nad yw adroddiad Tirweddau’r Dyfodol ar gael. Cytunodd Arweinydd y Tŷ i ystyried y mater ymhellach.
Nododd y Rheolwyr Busnes hefyd y bydd y pleidleisio ar bob eitem arall o fusnes yn cael ei gynnal cyn i drafodion Cyfnod 3 ddechrau.
Dydd Mercher
Bydd y Prif Weinidog yn gwneud datganiad ynghylch tanio Erthygl 50 (45 munud).
Cytunodd y Pwyllgor Busnes y byddai'r Cyfnod Pleidleisio ddydd Mercher yn cael ei gynnal cyn y Dadleuon Byr.
Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 5 Ebrill 2017 –
· Cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 12 mewn perthynas â Chwestiynau Amserol (5 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud) – aildrefnwyd o 22 Mawrth
Dydd Mercher 10 Mai 2017 -
· Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: Y darlun mawr: Safbwyntiau cychwynnol y Pwyllgor ar Ddarlledu yng Nghymru (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
Cytunodd y Pwyllgor i adolygu'r meini prawf ar gyfer dethol Cynigion Deddfwriaethol yr Aelodau ar gyfer dadl.
Dewisodd y Pwyllgor Busnes gynnig ar gyfer y ddadl:
Dydd Mercher 5 Ebrill
· NNDM6227
Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil ar leihau gwastraff.
2. Yn nodi mai diben y Bil fyddai lleihau gwastraff drwy roi gofyniad ar gynhyrchwyr a manwerthwyr bwyd mewn cysylltiad â phecynnu bwyd.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i drefnu'r ddadl nesaf ar y cynnig deddfwriaethol ar gyfer 17 Mai 2017.
Trafododd y Rheolwyr Busnes y papur ar effaith Deddf Cymru 2017 ar Reolau Sefydlog y Cynulliad o ran cyfranogiad yr Ysgrifenyddion Gwladol yn y trafodion, yn arbennig ynghylch y ddadl ar raglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU. Trafododd y Pwyllgor hefyd sut y gellid codi proffil dadl Llywodraeth Cymru ar y rhaglen ddeddfwriaethol yn y dyfodol, a chytunwyd y dylai swyddogion y Comisiwn a Llywodraeth Cymru drafod yr opsiynau i’w hystyried ymhellach.
Cafodd y Reolwyr Busnes eu gwahodd i ymgynghori gyda'u grwpiau ar y materion hyn, a dychwelyd at y papur mewn cyfarfod yn y dyfodol.
Bu i'r llywydd atgoffa'r Rheolwyr Busnes bod disgwyl i'r Aelodau sydd wedi gwneud cais i siarad am eitemau busnes gyrraedd cyn dechrau'r eitem honno os ydynt am gael eu galw. Cyfrifoldeb yr Aelodau yw sicrhau eu bod yn ymwybodol os yw busnes yn mynd rhagddo'n gynt na'r disgwyl.